Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr ardd bob bore, yn or gorchymyn pendant ei dad. Tra yr ydoedd efe, a Charles ei frawd, yn y, Charterhouse, mawr flinid eu teulu yn Epworth gan rywbeth a aflonyddai ar y persondy. Cyfeirir at hyn gan ei holl fywgraffwyr, a chynygia y naill a'r llall at esbonio y dirgelwch. Dywedir y clywid yn ac oddeutu y ty ryw swn dyeithriol—yn awr fel gruddfanau trymion, ac yna fel curiadau uchel, a thrachefn yn debyg i swn traed dyn yn disgyn ac yn esgyn y grisiau. Clybuwyd pethau o'r fath yma gan holl deulu y tŷ, y dydd fel y nos, drachefn a thrachefn, am oddeutu dau-fis, a pharodd anghysur dirfawr iddynt.. Ond pa gyfrif oedd i'w roddi am dano? Priodolai Isaac Taylor y cwbl i ofergoeledd y teulu. Ond credai Wesley ei hun ei fod yn rhyw beth gwrthddrychol a goruwchnaturiol; ac amddiffynir ei olygiad yn fedrus gan y brenin- fardd Southey, a chan Tyreman, ei fywgraffydd diweddaraf a rhagoraf. Modd bynag gwnaeth "Old Jeffrey," fel y gelwid y bwgan, argraff annileadwy ar ei feddwl ef a'i deulu o barth i fodolaeth ac agosrwydd y byd ysprydol. Wedi treilio wyth mlynedd yn y Charterhouse—y tymhor mwyaf y gellid aros yno—etholwyd ef i Goleg Eglwys Crist yn Rhydychain, lle y bu hyd ar ol ei ordeiniad yn y flwyddyn 1725. Nid ydoedd ond ieuange pan aeth yno. Cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth a dysg; a phan yn dair mlwydd ar hugain oed, etholwyd ef yn gymrawd o Goleg Lincoln, yr hyn oedd yn anrhydedd iddo, ac yn ffynonell o elw arianol blynyddol iddo tra y parhaodd yn ddibriod. Llonwyd ei dad yn ddirfawr pan glywodd am hyn. Ar ol enill ei gymrodoriaeth, bu yn gurad i'w dad am ddwy flynedd mewn lle o'r enw Wroote; ond ar gais Dr. Morely, rector Coleg Lincoln, cefnodd ar y guradiaeth, a dychwelodd i Rydychain, lle y daeth yn athraw ac yn gymedrolwr y dadleuon a gynelid yn y neuadd chwe' gwaith yn yr wythnos. Ac yno y bu nes yr ymfudodd i Georgia yn 1735. Dylid manylu ychydig yma, oblegyd fod yr wyth mlynedd dylynol i'w etholiad i gymrodoriaeth Lincoln yn un o'r cyfnodau pwysicaf yn mywyd ein gwrthddrych, yn ogystal ag yn hanes crefydd yn y deyrnas hon. Dyma y pryd y ffurfiwyd y "Gymdeithas Sanctaidd," fel y gelwid hi, o'r hon yr ymddadblygodd y Methodistiaid; ac yn fuan, y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr. Cyfansoddwyd y gymdeithas hono gan gynifer o fyfyrwyr ieuainge duwiolfrydig a ymwasgent ynghyd i anog eu gilydd i gynyddu yn ngras a gwybodaeth yr efengyl, ac i ymarfer gyda dyfalwch neillduol ddefosiynau yr Eglwys. Boreu—godent, gan neillduo oriau penodol i ymarferion dirgelaidd. Cyfranogent o'r cymun yn rheolaidd bob Sabbath, ymprydient bob dydd Mercher a dydd Gwener, ac ymgyfarfyddent bob prydnawn i efrydu y Testament Groeg, ac i gyfoethogi eu hunain mewn gwybodaeth grefyddol trwy gyd-ddarllen llyfrau da ereill. Ymgysegreat gyda sêl i weithredoedd o gymwynasgarwch ymarferol trwy ymweled â charcharorion, egwyddori plant yn y Catecism, cyfranu elusenau i'r tylodion, ceisio lleshad ysprydoly myfyrwyr ereill, ac achub pob cyfleusderau i dderbyn a gwneuthur daioni. Oherwydd fod cynllun, cysondeb, a rheol i'w gweithrediadau, galwyd hwy oddiar wawd yn Drefnyddion (Methodists), yr hwn enw a lynodd hyd y dydd heddyw wrth ddysgyblion Wesley a Whitfield. Pedwar oedd nifer yr "Holy Club" ar y cyntaf; wedi hyny chwyddodd eu rhifedi i naw. Heb roddi enwau yr oll honynt, dylid nodi fod James Harvey, George Whitfield, a Charles Wesley yn aelodau amlwg; ond enaid a llywydd y gymdeithas oedd John Wesley. Achlysur ei sefydliad ydoedd sefyllfa isel y brifysgol mewn moesoldeb. Teimlai gwyr ieuaingc cydwybodol nad oedd modd iddynt fyw yn y fath le, yn agos fel y dylid, heb ymneillduo oddiwrth arferion a chymdeithas y myfyrwyr ereill. Cafodd ei sylfaenu ar egwyddor gaeth Eglwysaidd a sacramentaidd. Buasai yn cyd—daraw yn hollol â golygiadau Keble a Pusey; a phe na buasai cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle ar ol hyny yn marn a chyflyrau ei aelodau, diau mai diwerth, os nad niweidiol fuasai dylanwad y Methodistiaid hyny ar y byd. Ond ynglŷn a'r gwaith da a wnaed ar y cyfiyrau ar ol hyny, profodd ffurfiad a dylanwad y gymdeithas yn rhagbarotoad gwerthfawr iddynt hwy at waith eu hoes, ac o fendith fawr i grefydd. Yn y cyfnod yma, effeithiwyd ar feddwl John Wesley gan lyfrau dau neu dri o awdwyr oedd yn cario cryn ddylanwad ar ddosparth o ddarllenwyr y pryd hyny. Pan yn ddwy ar hugain oed, daeth dan ddylanwad Thomas à Kempis a Jeremy Taylor, trwy ddarllen "Dylyniad Crist" o waith y cyntaf, a "Byw a marw yn sanctaidd" gan yr olaf. Yn fuan wedi hyny, daeth i gyffyrddiad a llyfrau William Law, yn enwedig yr "Alwad Ddifrifol", a'i "Berffeithrwydd Cristionogol;" a chydweithiai yr holl ddylanwadau hyn i wneuthur o hono Uchel-Eglwyswr defodol, cyfriniol, a hunan-gyfiawn!

Yn mis Ebrill, 1735, bu farw ei dad; ac aeth yntau yn y cyflwr a nodwyd, 'a'i frawd Charles yn genadon i Georgia, gyda'r amcan penaf o ddychwelyd yr Indiaid Americ-