Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anaidd. Dyddorol yw cofio mai yn yr adeg yma y daeth George Whitfield i gydnabyddiaeth âg ef gyntaf, ac y rhestrwyd ei enw yn mhlith Methodistiaid Rhydychain. Derbyniasid Whitfield fel gweinydd (servitor) i Goleg Pembroke dair blynedd cyn hyn; ac yr oedd er's peth amser wedi dechreu gweddio a chanu salmau bum' gwaith yn y dydd, yn mawr edmygu y Wesleys, ac ereill, ac yn awyddus iawn i ffurfio cydnabyddiaeth âg aelodau y "Gymdeithas Sanctaidd." Ond gan nad oedd ond gwas bach i'r myfyrwyr, ac yn ieuange, pallai ymwthio i'w sylw. Modd bynag, ynglŷn â rhyw helynt a fu yn y tloty cyfagos, mewn canlyniad i ymgais rhyw wraig oedd yno i gyflawni hunanladdiad, cafodd Whitfield gyfleusdra i ddyfod i sylw Charles Wesley. Gwahoddwyd ef i frecwesta gyda'r brodyr; ac mewn canlyniad i hyny, derbyniwyd ef i'r cylch a fawr ddymunasai.

Pan oedd John Wesley yn ewyllysgar i adael Rhydychain, ac Epworth wedi cau yn ei erbyn, daeth iddo ymwared e le arall. Y pryd hyny, yr oedd ymdrech ar droed yn y deyrnas hon i sefydlu trefedigaeth yn America, a alwyd ar enw y brenin yn Georgia. Cymerid dyddordeb mawr yn y symudiad gan ein dyngarwyr, yn enwedigol felly gan Dr. John Burton, o Rydychain. Ymddengys fod y wasgfa a oddiweddasai y wlad hon mewn canlyniad i fethiant y South Sea Bubble yn galw am ryw ddarpariaeth o'r fath rhag suddo i fethdaliad cyffredinol. Cynllun Dr. Burton ydoedd sefydlu trefedigaeth Georgia i dyfu llin, a chywarch, a sidan. Caniatawyd breinlen gan Sior II.; penodwyd ymddiriedolwyr i ddal y lle mewn ymddiried i'r tylodion am un mlynedd ar hugain, a ffurfiwyd cronfa o £36,000 mewn amser byr osod y cynllun mewn gweithrediad. Yn mhen pum' mis ar ol arwyddiad y freinlen, yr oedd y fintai gyntaf o ymfudwyr, yn cynwys chwech ugain o eneidiau, yn hwylio tua'r gorllewin, gyda James Edward Oglethorpe fel eu llywydd bwriadedig, a'r Parch Henry Herbert, clerigwr, fel eu gweinidog. Yn fuan ar ol tirio, gwelodd Oglethorpe, fel y tybiai, fod y drws yn agor i efengyleiddio yr Indiaid brodorol, os gellid sicrhau cenadwr i lafurio yn eu plith fyddai yn abl i ddysgu eu hiaith. Cyn hir dychwelodd y llywydd i Loegr, gan ddwyn i'w ganlyn un Tomo-Chici, ac Indiaid ereill, gyda'r bwriad o enill cydymdeimlad Cristionogion â'r amcan a goleddai i'w hefengyleiddio. Cafodd ei ddymuniad yn hyn, canys cymerodd "Cymdeithas Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor y pwngc mewn llaw, ac anfonwyd y Parch S. Quincy drosodd i Georgia fel cenadwr. Yn ngwyneb dymuniad y cenadwr hwnw i ddychwelyd, ceisiwyd gan John Wesley gymeryd le. Wedi ymgynghori a'i gyfeillion, a chael cydsyniad ei fam, efe a aeth yno. Rhoddodd ei fam ateb nodweddiadol iawn ar yr achos hwn, trwy ddatgan "Pe buasai genyf ugain o feibion, llawenychaswn wrth weled pob un o honynt yn dylyn gwaith mor dda" (llafurio fel cenadon mewn gwledydd tramor). Ar y 14eg o Hydref, 1735, ar fwrdd llong hwyliau o'r enw "Simmonds," wele ef yn y cymeriad o genadwr, yn nghyda Charles ei frawd yn y nodwedd o ysgrifenydd i Oglethorpe, yn cychwyn am Georgia. Yn mhlith y teithwyr yr oedd mintai fechan o Forafiaid; ac i'r dyben o fedru ymddiddan â hwynt, ymgymerodd yn ddiatreg â dysgu yr Almaenaeg, yn yr hon y daeth, yn mhen blwyddyn ar ol hyny, yn ddigon cyfarwydd i gyfieithu emynau o honi i'r Saesneg, ac i ymgydnabyddu cryn lawer â llenyddiaeth Germany. Chwech ar hugain oedd nifer y Morafiaid hyn, rhwng Mr. D. Nitscham, eu gweinidog. Buont bedwar mis yn croesi y Werydd. Pan oeddynt tua thaith pythefnos i'r làn ar yr ochr draw, y môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd. Waeth-waeth yr elai, torai y tonau dros y bwrdd, drylliwyd yr hwylbren, a rhuthrai y môr yn afonydd i mewn trwy ffenestri y caban. Parhaodd y dynhestl am ddyddiau yn olynol, gan gynyddu mewn gerwindeb. Ar y chweched dydd, torodd ton dros ben Wesley a dihangfa gyfyng a gafodd am ei fywyd ym mhen wyth niwrnod, ymgynddeiriogodd y dymhestl i gyflwr dychrynllyd. Rhuodd y gwynt, gan rwygo yr hwyliau, mygai y môr fel pe buasai ar dân, flamiai yr awyr gan fflachiadau y mellt, a chwyrndefid y llestr gyda'r fath rym hyd nes ofnid bob eiliad iddi ymollwng yn ysgyrion. Ond y pryd yma, pan yr oedd y dwylaw mewn braw, y teithwyr Saesonig yn gwaeddi ac yn llewygu gan ofn, a John Wesley ei hunan yn crynu gan ofn mawr, yr oedd y Morafiaid duwiol yn canu salmau yn uwch na holl chwiban y drycin, gan ymddangos yn berffaith ddedwydd a hunan-feddiannol. Synwyd y clerigwr ieuange gan hyn; ac mor fuan ag y gostegodd y dymhestl, prysurodd atynt, gan ofyn, "A oedd arnych ddim ofn?" Atebasant, "Nac oedd, diolch i Dduw." "A oedd ar y gwragedd a'r plant ddim ofn?" gofynodd yntau eilwaith. "Nac oedd (meddai), ac nid oes arnynt hwythau chwaith ddim ofn marw," oedd yr atebiad a gafodd. Synodd yn fwy pan glywodd hyn, a gwnaeth ymholiadau pellach, pryd y