Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

ANWYL SYR,
Yr wyf yn gobeithio eich bod chwi a'r eiddoch o dan gysgod grasol aden Hollalluog Dduw. Byddaf ddiolchgar iawn os byddwch mor fwyn a gosod y llinellau canlynol o flaen y cyfeillion yn Nghymdeithasiad Llanbedr.

Barchedig dadau a brodyr cynnulledig yn Llanbedr,—Gobeithio yr wyf y bydd presennoldeb Arglwydd y cynhauaf yn amlwg y tro hwn yn eich plith, a phelyderau ei ogoniant yn ofnadwy i deyrnas y gelyn, a bod amrantau boreuddydd y Jubili ar ymagor, ac y bydd i drigolion ardaloedd Teifi brofi bendithion anorchfygol hon, pa rai sydd a'u goleuni yn dywyllwch, a'u ffydd yn darian cadarnach na phres yn erbyn purdeb y gwirionedd, fel y mae yn yr Iesu; ac nid yw Duwdod person y Gwaredwr ond testun eu gwawd, er dywedyd o'r Ysbryd Glan mae efe yw y gwir Dduw, a'r bywyd tragywyddol.'

Yn awr yr wyf yn gofyn eich cenad i'r brawd yr anfonais hyn o linellau ato, i ddarllen i glywedigaeth y brodyr yr hysbysiad canlynol: sef,

Megis yr anfonais er's amser yn ol ychydig sylwadau i Oleuad Cymru, mewn dull o wawdiaeth a duchan, yn erbyn rhai geiriau a golygiadau perthynol i'r Gyfundraeth Newydd (The New System), yr hon sydd yn ymloewi draws y wlad; yr wyf yn ddiweddar gwedi bod uwch ben y mater mewn modd mwy difrifol ac egniol, trwy yr hyn y cyfansoddais draethawd, yr hwn wyf yn ei alw Drych y Dadleuwr. Ond wrth grybwyll am yr enw Dadleuwr, efallai y tybia rhai