Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Tregaron, Chwefror 8fed, 1833.

FY ANWYL EDWARD,

Daeth yr eiddoch, a ddyddiwyd y 26ain o Ionawr, yn ddiogel i law, ac achosodd foddlonrwydd a gorfoledd difesur i deulu Prospect House, y rhai oeddynt cyn derbyn y newydd croesawus ac adfywiol ond ychydig gwell na theulu o hypochondriacs, gan ddysgwyl dyfodiad y cludydd (post) gyda phryder ac ofn. Nid oeddwn i gartref ar yr amser, a chafodd eich mam a'ch chwiorydd fwynhau yr hyfrydwch gryn ysbaid cyn i mi ddychwelyd i gael cyfranogi o hono; a phan ddaeth hyny i ben, prydnawn dydd Mercher diweddaf, yr oedd eich mam druan yn dymuno yn fawr i'm synu i â'r wybodaeth, ond nid oedd posibl rheoli Hannah fach; yr oedd mor llawn o hono fel nas gallasai ymattal rhag llefain, Y mae e' wedi passo,[1] datta bach.' Pan glywais yr hysbysiad hwn, gorchfygwyd fy meddwl â diolchgarwch a moliant i'm Duw cyfammodol. O pa beth a dalaf i'r Arglwydd am y prawf ychwanegol hwn o'i drugarowgrwydd i mi ac i'm heiddo? Bydded i'r ffafr newydd hon a gyfranwyd i ni fod yn foddion i'n darostwng yn y llwch o flaen ein Tad nefol. Ac yn awr, fy anwyl Edward, dywedaf wrthych yn ngeiriau'r Salmydd, Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda;' yna nid rhaid i'ch ofni. Nid yw yn briodol i ni ymddiried yn yr Arglwydd a gwneuthur drwg, cabledd yw hyny, ac ni ddylem ychwaith ymddiried yn yr Arglwydd a pheidio gwneuthur dim, oblegid rhyfyg yw hyny. Ond gobeithiwn yn yr

  1. Sef yr Examinations angenrheidiol i'w awdurdodi yn gyfreithlon i ymarfer â'i alwedigaeth.