Arglwydd a gwnawn dda, ac yna y mae ffydd a gweithredoedd yn myned law-yn-llaw.
Ydwyf, fy anwyl Edward,
Eich tad cariadus,
EBENEZER RICHARD.
Yn y flwyddyn hon ymwelodd a Llundain am y drydedd waith, ar daer gais yr eglwys yn Jewin Crescent, ond tebygol yw na fuasai yn ufuddhau i'r alwad y tro hwn oni bai fod tyniad cryf i'w feddwl tyner a thadol ef tuag at y brif-ddinas, o herwydd fod ei ddau fab yn preswylio yno.[1] Fy mechgyn anwyl, medd efe mewn llythyr atynt ar ol penderfyniad y Cyfarfod Misol ar yr achos, nis gwn yn iawn pa beth i feddwl am fy nyfodiad i Lundain, oblegid byth er y Cyfarfod Misol yr ydwyf wedi cael yn gyson feddyliau am Lundain y dydd, a breuddwydion am Lundain y nos. Weithiau yr wyf yn eistedd yn ystafell Henry yn Highbury, ar y funud nesaf yr wyf yn mharlwr rhyw feddyg yn Chiswell Street; ac ar ol ei ddyfodiad, wrth weled cyflawniad y breuddwydion serchiadol hyn, y mae yn debyg iddo fwynhau rhai o'r oriau dedwyddaf yn ei fywyd; ac nid hawdd i neb ond rhai o'r un dymher hynod, gariadus, a gwresog, ddychymygu yr hyfrydwch dirfawr oedd yn ddarluniedig yn ei wedd pan yn eistedd yn un o'r ystafelloedd a gyfeiria atynt yn y llythyr uchod.
Arosodd y waith hon am oddeutu chwech wythnos yn y brif-ddinas, ond cyn ymadael, derbyniodd y newydd am farwolaeth ei hen gyfaill, Mr. David Jen-
- ↑ Y naill newydd ddechreu ymarfer â'i alwedigaeth fel meddyg, a'r llall yn parhau yn yr athrofa.