Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT MR. A MRS. JONES, LLANBEDR.

45, Chiswell Street, Rhagfyr 11, 1835.

FY NGHYFEILLION ANWYL,
Nid wyf wedi anghofio y dymuniad caredig a wnaethoch pan yr oeddym yn myned trwy Lanbedr ar ein ffordd i'r lle hwn, er fy mod wedi gorfod oedi'r cyflawniad ar lawer o gyfrifon; ond y mae Solomon yn dywedyd,Gobaith a oeder a wanha'r galon;' am hyny nid oedaf yn hwy. Nis gellwch ddysgwyl i mi ysgrifenu yn Gymraeg ar ol byw cyhyd yn Llundain, am hyny rhaid i'r cwbl fod yn Saesoneg. . . . . peth cyntaf o bwys teilwng i'w grybwyll, yw Urddiad ein hanwyl Henry, yr hyn a gymerodd le y dydd Mercher ar ol ein dyfodiad; ond gan y gellwch weled hanes gyflawn o hono yn y Patriot a'r Evangelical Magazine, chwi a esgusodwch i mi ei dransgrifio yma.

Y Sabbath diweddaf ydoedd Sul cymundeb cyntaf ein hanwyl Henry er ei urddiad; aeth ei fam, a'i frawd, a minau, i'w gapel, i fod yn bresennol ar yr achlysur difrifol. Ond beth fydd eich syndod pan ddealloch i'ch hen gyfaill E. Richard, o Dregaron, sefyll i fynu, a phregethu pregeth Saesoneg i gynnulleidfa gyfrifol iawn yn y brif-ddinas! Mi wn y chwardd Mrs. Jones yn iach am ben hyn, ac y dywed ond odid, Yr hen wr gwirion druan, y mae ei ben-wendid (dotage) yn dyfod arno; y mae yn dechreu myned yn hen.' Ar ol y bregeth, cawsom yr hyfrydwch mawr o eistedd i lawr wrth fwrdd yr Arglwydd, a'n hanwyl Henry yn gweinyddu. Yr oedd bron yn ormod i'n teimladau ddal, ïe, mewn gwirionedd, yr oedd fel rhyw nefoedd fechan i ni ar y llawr. O pwy ydwyf fi, a pha beth yw tŷ fy nhad, fel y goddefid i mi weled y fath bethau