Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raid iddynt yn fuan brofi pa beth oedd bod yn weddw ac yn amddifaid. Wrth weled hyn, dechreuodd fy anwyl Edward, gyda chalon drom ac â llygaid gwlybion, i ymorchestu i'r eithaf, trwy ddefnyddio y cyffeiriau cryfaf, a gollwng gwaed yn helaeth, a, than fendith y Duw graslawn a thrugarog, llwyddodd o'r diwedd i'w drechu. Dechreuais wellhau yn raddol, a thrwy law ddaionus ein Duw arnom, yr oeddwn yn fuan yn alluog i weinu rhai o'm dyledswyddau cyhoeddus. Yma y mae genym resymau neillduol a difrifol iawn fel teulu i eneinio'r golofn, i gymeryd cwpan iechawdwriaeth yn ein llaw, a galw ar enw yr Arglwydd.

Y mae yn deilwng o sylw ei fod yn y cystudd hwn o ran agwedd ei feddwl, gyda golwg ar angeu a thragywyddoldeb, yn gwbl dawel a digyffro. Un diwrnod, pan ydoedd yn wael iawn yn ei wely, sylwodd rhyw un wrtho, Ond y mae un peth i'w ddweud, y mae'r mater yn dda, ac wedi ei settlo cyn heddyw. O ydyw, ydyw, ebe yntau. Ac felly nid yw ond mater bach pa un a'i cynt a'i diweddarach y daw'r gennad? Nac yw ond bach iawn; yr wy'n meddwl am eiriau Williams

'Trefna'r fan, a threfna'r funud.'

45, Chiswell Street, Ion. 13, 1836.

FY ANWYL MARY A HANNAH,
Yr wyf yn gobeithio y cynnorthwywch chwithau eich rhieni i fynegu moliant yr Arglwydd yn adferiad eich tad i'r fath raddau, fel y gallaf 'nawr eistedd i ddarllen ac ysgrifenu o foreu i hwyr heb deimlo un tuedd i gysgu. Nid wyf yn ammau nad anfonodd yr Arglwydd fi yma i'r dyben o wellhau fy iechyd, oblegid chwi wyddoch ei fod ef yn rasol ac