AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.
BARCHEDIG AC ANWYL FRAWD,
Mewn llythyr a dderbyniais heddyw oddiwrth fy merch, gwelais eich bod yn wael iawn, yr hyn a'm trallododd i yn fawr; er fy mod yn gwybod fod pob cystudd a gwaeledd o dan lywodraeth Duw, ac mai eich Tad chwi yw y Duw hwnw, er hyny yr wyf yn methu peidio a gofidio drosoch chwi a'ch anwyl briod, oblegid bod cystudd wedi eich dal mor bell o'ch cartref; er fod yn gysur i chwi fod eich meibion gyda chwi, a phob moddion dynol at wellhad gerllaw, a'ch Tad nefol mor agos yn Llundain ac yn Tregaron. Gwn y gwna efe bob peth yn y modd goreu i chwi; y mae ei ddaioni yn anfeidrol, a'i ddoethineb y fath na fetha a gwneud felly!
Ond ni wyddom ni yr awr hon beth y mae efe yn ei wneuthur (yn fynych), ond ar ol hyn cawn wybod. Ond gallwn gael gras i gredu yn awr fod ei driniaeth yn dda, ïe, pan y byddo yn chwerw. Gŵyr ein Tad nefol beth sydd oreu i ni. Llestri pridd yw ein cyrph; y mae yn rhyfedd eu bod cyhyd heb gael eu dryllio: tra y byddo y Gwr yn dewis i ni ddwyn ei drysor, gofala am y llestr er gwàned. Y mae elfenau datodiad yn ein pebyll. Y mae y dihenyddwr yn ein tai er ys llawer blwyddyn; ni wyddom yr awr y gorchymynir iddo roi y dyrnod, ond gwyddom i bwy credasom, a'i fod ef yn abl i gadw. Nid yn unig efe a dderbyn ein hysbrydoedd, ond hefyd gallwn roddi y cwbl sydd anwyl genym i'w gadael ar ein hol yma i fynu yn dawel i'w ofal ef. Gallwn adael ein hymddifaid iddo; 'Ceidw hwynt yn fyw;' gall ein gweddwon ymddiried ynddo.'