Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. XV.

Dychweliad Mr. R. i Gymru—Ei undeb â Chymdeithas Dirwest—Llythyr oddiwrth y Parch. Thomas Evans—Priodas ei ferch hynaf— Llythyrau at ei blant—Ei ddyddiau diweddaf—Ei afiechyd, a'i angeu —Portreiad o gymeriad Mr. Richard.

DYCHWELODD Mr. Richard i'r wlad a'i iechyd wedi ei adnewyddu yn rhyfeddol, fel yr oedd yn alluog i ymaflyd drachefn yn ei wahanol orchwylion pwysig a llafurus, gyda nerth a bywiogrwydd mwy na chyffredin. Dechreuodd ei gyfeillion ymgryfhau yn y gobaith y goddefid iddynt am gryn ysbaid yn ychwaneg fwynhau ei lafur a'i bresennoldeb yn eu plith. Ond ymddengys fod rhyw ragdybiaeth ddofn wedi ymaflyd yn ei feddwl ef ei hun, fod tymhor ei ymadawiad yn agoshau, ac yr oedd effeithiau y grediniaeth hon yn amlwg yn ei holl ymddygiad, ac yn enwedig yn hollol ymgyssegriad ei feddwl a'i fywyd i waith yr Arglwydd. Ofer ydoedd pob ymgais i'w ennill i laesu ei ymdrechiadau rhag niweidio ei iechyd, oblegid yr oedd yn gweithredu yn ysbryd y sylw a grybwyllai yn fynych mewn ateb i'r cyfryw gymhelliadau, Fod yn well ganddo dreulio allan na rhwdu allan. Yn ystod y flwyddyn hon dechreuodd ymgymeryd gyda ei egni arferol âg achos dirwest. Wrth ganfod effeithiau truenus meddwdod