Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Daw eto wanwyn siriol,
I wenu ar ein tir;
Daw'r adar bach i ganu
Ar frigau'r coed cyn hir;
Bydd gwrando'r sain berorus
Yn falm i lawer trist,
Caf finnau ddweyd pryd hynny
Ces helpu Iesu Grist."

****

Pwy ddwed nad yw athrawiaeth,
Yr eneth bach yn bur?
Mae ganddi egwyddorion,
Ar galon fel y dur,
Mae llawer ffordd i weithio,
A'r gwaith yn fawr ei fri,
Rhoed cymorth i mi ddwedyd,—
Cydweithwyr Duw ym ni.

I'R FERCH AMDDIFAD.

(Ysgrifenwyd mewn Album).

Ti biau'r môr a thi biau'r mynydd,
Ti biau'r afon, a thi biau'r coed,
Ti biau'r awyr, ti biau'r blodau,
Deimlant anrhydedd gael bod dan dy droed,
O eneth gyfoethog! Ti biau'r adar,
Eiddot ti'r cwbl—etifeddes y wlad,
Na ddigalona dy fod yn amddifad,
Ti biau'r nefoedd, wyt blentyn Dy DAD.