Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"JOSEPH YN HYSBYSU EI HUN I'W FRODYR"

(Buddugol)

PORTREAD bywiol ar anfarwol ddail,
Edrychwch arno mewn dwfn synedigaeth;
A'r lliwiau'n osodedig bob yn ail,
Er mwyn egluro'r darlun i'n dirnadaeth,
Arlunydd sanctaidd, un o ddynion Duw,
Warantwyd fry yn uchaf gyfrin nefol,
Yn trochi'i bwyntil yn y dwyfol liw;
Yn gymlethedig wedyn gyda'r dynol.

A gwelwn ddynol tlws—mor hynod dlws,
Yn nagrau Joseph yn y darlun,
Mae'r argae ryfedd hon yn agor drws
Teimladau pur, i redeg dros y terfyn;
A chludant gyda hwy y brad a'r llid
Ddangoswyd ato gan gyfnesa'i galon;
Ac ynddynt, wele, iachawdwriaeth brid,
Yn ymddylifo iddynt megis afon.

Mae'r llinell arall, Ha! yn dywell ddu,
Nis gallwn ni ddim treiddio trwy ddwyfol-
deb:
Nis gallwn weld caethiwed bachgen cu,
A darllen yno ryddid yn ei hwyneb;
Nis gallwn weld hebryngiad dirgel Duw,
Drwy d'wllwch pechod a dyfeisiau dieflig,
Nis gallwn weld ei lwybr, dyrys yw,
Yn troi y felldith erch yn fendigedig.