SALMAU.
3 Rhyw loches gadarn wyt i mi,
Rhag ing y'm cedwi 'n ffyddlon;
Ac amgylchyni fi ar led
A cherdd ymwared gyson.
33.
1
M. C. C.
CYNGOR yr Arglwydd yn ddilyth
A bery byth yn berffaith;
A holl feddyliau 'i galon wiw
Barâa i bob rhyw genedlaeth.
2 O'r nefoedd fry yr edrych Duw
Ar lwybrau pob rhyw ddynion;
Ac o'i breswylfa 'r edrych ar
Y ddaear a'i thrigolion.
3. Wele lawn olwg Duw heb lai
Sydd ar y rhai a'i hofno;
A'i drugareddau sydd ar led
I'r sawl ymddiried ynddo.
4 Ein henaid gan yr Arglwydd hael,
Sy 'n dysgwyl cael ein bywyd,
Efe a byrth ein henaid gwan,
Ef yw ein tarian hefyd.
34.
M. C. C.
1 DIOLCHAF fi, â chalon rwydd,
I'r Arglwydd bob amserau;
Ei foliant ef a'i wir fawrâad,
Sy'n wastad yn fy ngenau.
2 Y sawl a edrych arno ef,
A llewyrch nef eglurir;
Ni waradwyddir o honynt neb,
A'u gwyneb ni ch'wilyddir.
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/30
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto