Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3 Wele, y truan a roes lef,
A Duw o'r nef yn gwrando;
Ac a'i gwaredodd o'i holl ddrwg,
A'i waedd oedd amlwg iddo.
4 Angel ein Duw a dry yn gylch
O amgylch pawb a'i hofnant;
Ceidw ef hwynt, a llawer gwell
Na chastell yw eu gwarant.
5 O profwch, gwelwch, ddaed yw
Yr Arglwydd byw i'r eiddo;
A gwyn ei fyd pob dyn a gred
Roi ei ymddiried ynddo.
35.
10
M. C. C.
1 ARGLWYDD, medd fy esgyrn i,
Pwy sydd fel ti 'n Waredydd?
Ti rhag ei drech waredi 'r gwan,
A'r truan rhag yspeilydd.
2 O'th nefoedd gwelaist, Arglwydd cu,
Mor lidiog fu 'ngelynion;
Na thaw, O Dduw, na saif yn mhell,
Bydd i'm yn gyfaill cyson.
3 Minnau â'm tafod, Arglwydd Ner,
Am dy gyfiawnder traethaf:
Ac am dy foliant nos a dydd,
Ag enaid rhydd y canaf.
36.
1
M. C, C.
☐ MOR werthfawr, fy Arglwydd Dduw,
I bawb yw dy drugaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
Yn nghysgod dy adenydd.

Google 19