Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

6 O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
Anfon i lawr dy gymmod;
Dedwydd yw 'r dyn a roddo 'i gred,
A'i holl ymddiried ynod.
84.
1
2
3
M. 148.
ARGLWYDD y bydoedd fry,
Mor deg a hawddgar yw
Trigfanau 'th gariad cu,
Daearol demlau 'm Duw!
Boed tynfa f' enaid tua 'th dŷ,
Fy Nuw, i wel'd dy wyneb cu.
Hoff gan aderyn to
Gael yno i'w gywion le;
A'r wennol ar ei thro,
Hiraethu am ei thre:
Boed zel fy enaid i'r un faint
Am gael preswylio 'mhlith dy saint.
Gwyn fyd y dynion fo 'n
Gweddio yn y lle;
Mae Duw yn gwrando 'i blant,
Yn wastad molant E';
A dedwydd ydynt hwy bryd hyn
Sy 'n hoffi 'r ffordd i Sion fryn.
4 O nerth i nerth â rhai 'n
5
Trwy lyn wylofain du,
Nes delont bawb ger bron
Eu Duw yn Sion fry:
O hyfryd fan, pan ddygo ef
Ei blant i gyd o'r byd i'r nef.
Cael treulio sanctaidd ddydd
Lle byddo Duw a'i saint;

Google