Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Llawenydd gwell a rydd
Na mil mewn bydol fraint:
Gwell yw cael cadw'r drws o hyd,
Lle dêl fy Nuw, na ph'lasau 'r byd.
85.
M. C. C.
IDA wyt i'th dir, Iehovah Ner,
Dychwelaist gaethder Iago;
Maddeuaist drawsedd dy bobl di,
Mae 'u camwedd wedi 'i guddio.
2 Tynaist dy lid oddiwrthym ni,
Troist dy ddiglloni awchlym ;
O Dduw ein nerth, tro ninnau 'n well,
A'th lid bid bell oddiwrthym.
3 Ai byth y digi wrthym ni?
A sori di hyd ddiwedd ?
A saif dy lid o oes i oes?
Duw gwrando, moes drugaredd.
4 I'r rhai a ofnant Arglwydd nef,
Mae 'i iechyd ef yn agos:
Felly y caiff gogoniant hir
O fewn ein tir ni aros.
86.
1 G
M. C. C.
WRANDAWAF beth a ddywed Ner
Yn mhob cyfyngder wrthyf;
Efe a draetha hedd mewn ing,
Pan fyddo cyfyng arnwyf.
2 Diau mae 'i iechyd ef ger llaw,
Er ofn a braw 'r anialwch;
I'r rhai a'i hofnant ac a'i car,
Try galar yn ddedwyddwch.

Google