Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3 Llwyr goffadwriaeth honot ti,
A'th fawr ddaioni draethant;
Ac o'th gyfiawnder, fy Nuw Ion,
A llafar dôn y canant.
4 Sef graslawn yw ein Harglwydd ni,
Ac o dosturi rhyfedd;
Llwyr ac annyben yw i ddig,
Llawn frydig i drugraedd.
1
DA
RHAN II.
A yw yr Arglwydd i bob dyn,
A'i nodded sy 'n dycianol;
Ac ar ei holl weithredoedd ef
Daw nawdd o'r nef yn rasol.
2 Dy holl weithredoedd di a'th lwydd,
O Arglwydd, a'th glodforant;
Dy wyrth pan welo dy saint di,
Y rhei'ny a'th fendithiant
3 Wele, mae llygad yr holl fyd
Yn dysgwyl wrthyd, Arglwydd;
Tithau a'u porthi hwynt i gyd,
Bawb yn ei bryd, yn ebrwydd.
146.
M. C. C.
1 FY enaid, mola 'r Arglwydd nef;
Mi a'i molaf ef i'm bywyd:
Dangosaf glod i'm Harglwydd Dduw,
Tra gallaf fyw neu symud.
2 Hwn Dduw a wnaeth nef, daear, môr
A'r holl ystôr sydd ynddynt;
Hwn a saif yn ei wir ei hun,
Pryd na bo un o honynt.
Google