Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. CRWYDRO BYD.

PAN yn Buenos Ayres yn amser y rhyfel rhwng y Prydeiniaid a'r Sbaenwyr, cafodd Tomos ac un ar bymtheg o ddynion eraill, yn cynnwys swyddog, eu hanfon allan ar neges heddwch at gatrawd o Sbaenwyr oedd mewn rhan bell o'r wlad. Gorchymynnwyd iddynt gynnal eu hunain tra ar eu taith drwy ysbeilio tai y brodorion. Un dydd, pan yr oedd eisieu bwyd arnynt, mae'n debyg, torasant i dŷ oedd ar y ffordd. Diangodd hen wr oedd yn byw ynddo i lechu am ei fywyd i un o ystafelloedd y ty. Wrth ei weled tynnodd Gwyddel ei bicell allan, ac yr oedd ar fin ei drywanu, pryd y gwaeddodd Tomos Williams arno i gymeryd yn araf, gan na feddent awdurdod i ladd neb ond mewn hunan-amddiffyniad. Ar hynny, bygythiodd y Gwyddel gwaedwyllt roddi y bicell yng nghorpws Tomos, ond pan heriwyd ef i wneyd hynny yr oedd ganddo ormod o ofn y gyrrwr meirch a mulod o Lanrwst i gyffwrdd ynddo. Yn naturiol, yr oedd yr hen Sbaenwr yn dra diolchgar i'r dyn a'i gwaredodd o law y gelyn, ac aeth o dan y gwely gan ddwyn oddiyno botelaid o win. Yr oedd Tomos yn ddigon o hen ben i wneyd i'r Sbaenwr gymeryd dracht o honi gyntaf, rhag ofn fod gwenwyn ynddi. Nid oes eisieu dweyd y gweddill o hanes y gwin; oherwydd yr oedd gan Tomos chwant ddi-reol, corn gwddw hir, a chylla nad