Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd erioed wedi dweyd na chlywed y gair "Digon." Boed hynny fel y bo, yn y Cymro, ac nid yn y Gwyddel yr oedd y ddynoliaeth. oreu y tro hwn. Gwell oedd gan Tomos bechu hefo'r botel nag hefo'r bicell. Am niweidio ei hun, ac nid arall, fel y Gwyddel, yr oedd efe.

Wedi i ryw gymaint o heddwch gael ei gyhoeddi rhwng Sbaen a Phrydain, cychwynai llong Tomos Williams am Benrhyn Gobaith Da, yng ngyfeiriad cartref. Tra yr oedd efe yn myned at y llong honno, trwy ryw anffawd, neu ddiffyg gwyliadwriaeth, syrthiodd ei wn i'r môr, yr hyn a ystyrrid yn drosedd mawr iawn. Archwyd i Tomos gael ei rwymo, ac i dderbyn tri chant o wialenodau gyda fflangell front. Ond, yn ffodus, fe ymlithrodd duwies Trugaredd i mewn i'r calonnau cerrig a'r cydwybodau haearn oedd yn llywodraethu byddin Prydain Fawr y dyddiau hynny, fel na roddwyd iddo ddim ond hanner cant o wialenodau, ac yr oedd hynny yn llawn ddigon. Fel hyn, y mae gan Drugaredd, yn gystal a Chyfiawnder a Barn, Llymder a Chreulondeb, Nerth a Gwrhydri, ei buddugoliaethau, y rhai a enillir ganddi yn ddistaw, heb ollwng yr un ergyd na chwifio yr un cleddyf. Mae Trugaredd yn ddigon parod a chyflym i ennill concwest tra y bydd Barn yn rhoddi min ar ei gledd a Chyfiawnder yn chwythu ei udgorn.

Wedi treulio misoedd yn y Cape, aeth y gatrawd y perthynai Tomos iddi i Alikan Bay. Yr oeddynt dan orchymyn i rwystro y Ffrancod i lanio yno. Mae'n debyg nad oedd yno nemawr ddim i'w wneyd, a rhag i'r milwyr gyrraedd perffeithrwydd mewn segurdod, anfonwyd.