Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nifer o honynt, Tomos yn eu plith, i wneyd trefn ar dyddyn a berthynai i gadben y gatrawd. Yn y wlad yr oedd y lle hwnnw. Un diwrnod, pan oedd y dynion ym mhlas y swyddog, digwyddasant ddod o hyd i gryn swm o win, a bu gorfoledd mawr a gorohian lawer. Lle paradwysaidd i filwr sychedig oedd seler y cadben. Nid oedd eisieu cymhell yr un o honynt i wneyd rhuthr ar y potelau. Yfwyd o'r gwin gyda gwane angerddol, ond Tomos oedd yr unig un a feddwodd. Nid am fod ei ben yn wannach na phen unrhyw un arall o'r cwmni, gellir bod yn sicr, ond am mai efe a yfodd fwyaf o'r gwin. Daeth hanes yr ysbleddach danddaearol i glustiau y swyddog, yr hwn, ar unwaith, a orchymynodd i Domos gael ei fflangellu. Ond cafodd eiriolydd y tro hwn, a hynny ym mherson neb llai urddasol na gwraig y swyddog. Y rheswm dros iddi hi ymgymeryd â'r eiriolaeth ydoedd fod Tomos wedi peri llawer o ddifyrrwch iddi, o dro i dro, drwy adrodd straeon am y Cymry. Rhaid mai straeon dyddorol dros ben oedd y rhai hyn cyn y llwyddasent i gadw y "gath naw cynffon" yng nghwsg. Ac felly yr oeddynt yn ddi-ddadl; ac yr oedd Tomos yn adroddwr dihafal ar stori; ac yn y cyfnod hwn ar ei fywyd nid oedd yn rhy ofalus am chwaeth nac am wirionedd, ond synnwn i ddim nad oedd yn llawn cymaint felly a'r foneddiges a dderbyniai y fath fwynhad wrth wrando arno.

Wedi dychwelyd i Cape Town, rhoddid rhyw fath o ryddid i'r milwyr i fyned allan i grwydro hyd y dref, a chan fod eu pocedau bron yn hollol weigion y naill ddydd ar ol y