Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llall, byddai gan Tomos gynllun bach gwreiddiol o'i eiddo ei hun i gael arian. Tra y gorfodid eraill i ddwyn bwyd a diod, byddai ef yn gwneyd rhyw lun o ennill y cyfryw. Ei gynllun oedd myned o ddeutu y tai mwyaf urddasol yn y dref a'r amgylchoedd i ganu hen gerddi Cymreig, gyda'r hyn yr oedd ganddo gryn lawer o ddawn, ac i ddynwared Wil Ellis, telynwr yr "Eagles." Yr oedd mynd rhyfeddol ar gampau Tomos yn y cyfeiriad yna. Amlwg oedd fod nwyddau Cymreig yn cymeryd yn Cape Town gan mlynedd yn ol, beth bynnag sydd yn dod o honynt yno heddyw. Derbyniai Tomos swm lled dda o arian, cyflawnder o fwyd, a gormod o ddiod.

Pan oedd y llong a'i cludai ef ac eraill ynddi ar y fordaith o'r Cape i Bombay, canfyddwyd ei bod yn gollwng dŵr i mewn, ac oherwydd hynny yn achosi cryn lawer o drafferth a phryder i'r swyddogion a'r dwylaw. Un diwrnod-diwrnod o helbul mawr-galwodd y cadben y dwylaw oll ar y bwrdd. Ceid yn en mysg rai yn cynrychioli naw neu ddeg o wahanol genhedloedd, ond Tomos oedd yr unig Gymro o'r cyfan. Gofynnwyd i bob un a oedd yn gallu nofio, ond gwadu a fynnai yr oll. Wedi i Domos wadu, dywedodd y cadben wrtho ei fod yn dweyd celwydd, ac mai efe oedd y nofiwr goreu a welodd erioed. Ceisiodd ganddo fynd i'r dŵr i chwilio ochrau a gwaelod y llestr, er mwyn cael allan drwy ba ffordd yr oedd y dŵr yn dod i mewn. Addefodd yntau, o'r diwedd y medrai nofio, ond fod arno ofn y morgwn (sharks), gan mai y lle yr oeddynt yn digwydd bod ynddo oedd y gwaethaf yn y