Gwirwyd y dudalen hon
byd ar y môr am y creaduriaid peryglus hynny.
Modd bynnag, wedi ychydig ymbil a pheth
gwirod, i lawr i'r dyfnder à Thomos, morgwn
neu beidio. Chwiliodd y llestr yn fanwl. Daeth
o hyd i'r agen. Dychwelodd yn ddiogel i
fwrdd y llong, a mynegodd ganlyniad ei ymchwiliad i'r cadben. Cafwyd ei fod yn dweyd
y gwir yn berffaith onest, a chafodd y llanc
dewr y swm o un sofren am anturio ei fywyd
ei hun i achub bywydau eraill.