Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III. TROI ADRE.

ANFUDDIOL, ac efallai anyddorol, fyddai dilyn ychwaneg ar hanes Tomos yn Affrica ac Asia. Digon yw dweyd iddo, ar ol ymdroi gyda'r fyddin ar gyfandir Ewrop, lanio yn Plymouth, yn Lloegr, a hynny ar yr adeg yr oedd Napoleon yn garcharor mewn llong yn y porthladd, ryw ychydig ddyddiau ar ol brwydr Waterloo. Y pryd hwnnw cafodd Tomos ei ryddhau o'r fyddin. Gwariodd yn Plymouth bob dimai o'r arian oedd ganddo. Llwyddodd, ryw fodd, i gael dod mewn llong hyd Gasnewydd, ym Mynwy, ac oddiyno cardotodd ei holl ffordd i Lanrwst. Oherwydd ei ddeheurwydd gyda'i dafod medrai Tomos gael cryn lawer o fwyd ac arian i'w gynnal ar hyd y daith. Wrth gwrs, gwnai y defnydd goreu oedd yn bosibl tuagat hynny o'r ffaith iddo fod mewn ysgarmesoedd lluosog a gwaedlyd yn Sbaen, Holland, Belgium, yng nghydag yn Asia, Affrica, ac America; ac yr oedd yn ei amser ef, gryn lawer o gydymdeimlad, ymhlith bonedd gwerin, â milwyr a fyddent wedi cyflawni rhyw gymaint o wasanaeth dros eu gwlad yr oedd efe yn sylwedydd digon craff, ac yn Hefyd, meddu ar gof campus, fel y gallai, gyda'r rhwyddineb mwyaf, ateb unrhyw gwestiynau lled ddyrus ar yr hanesion dyddorol a rhyfedd a adroddid ganddo. Medrai Tomos, yn fynych iawn, gael pentref cyfan i wrando arno yn