Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

myned drwy hanes ei anturiaethau; ac nid hollol "goch a fyddai y casgliad yn yr het ar ol "odfa" effeithiol o'r fath.

Pan gyrhaeddodd i Lanrwst, gwnaeth hynny yn swn ymddatodiad yr hen wr ei dad, yr hwn, fel y dylaswn fod wedi dweyd yng nghynt, oedd yn ffeltiwr yn y dref, ac yn meddu ar gryn ddawn i ganu. Adnabyddodd ei dad ef, a bu farw ym mhen rhyw dridiau neu bedwar ar ol ei ddyfodiad i'r dref. Dau ddigwyddiad rhyfedd oedd y rhai yna-un yn dod adref a'r llall yn mynd adref. Cyrhaeddodd Tomos o daith bell, o Bombay, neu o Benrhyn Gobaith Da; ond cychwynai ei dad i daith bellach-i gyfeiriad y mynyddoedd "tywyll." Ynglyn a'i ddyfodiad adref, hwyrach y dylwn grybwyll fod Tomos, cyn ei fynediad i ffwrdd gyda'r fyddin, yn cadw cwmni, fel y dywedir, gyda rhyw ferch ieuanc o'r gymydogaeth. Diameu iddynt dyngu llw o ffyddlondeb y naill i'r llall, yn ol defod. ac arfer urdd y caru, cyn yr ymwahaniad maith a gymerodd le rhyngddynt. Collwyd dagrau. gollyngwyd ocheneidiau, gwasgwyd dwylaw, a gwastraffwyd addewidion. O yr oedd yno dynerwch. Llifeiriai serch ac aeth anwyldeb yn fflam, a throdd yr ymadawiad yn brydferth "fel drylliad paradwys." Ond, yn araf, ddarllennydd mwyn. Y mae barddoniaeth lednais y ffarwelio yn cael ei weddnewid i'r rhyddiaith mwyaf barbaraidd, pan ddywedwn fod y ferch ieuanc a adwaenid yn y dyddiau gynt gan Domos, erbyn iddo gyrraedd adref, yn wraig weddw a chwech o blant ganddi. Ond gwir yr hen air mai "hawdd cynneu tân ar hen aelwyd." Ymgymerodd Tomos ag anturiaeth