Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bwysicach na'r un a ddaeth i'w ran ar y pedwar cyfandir y bu yn ymladd arnynt-priododd hi. Bu ei wraig farw ymhen oddeutu chwe blynedd ar ol hynny.

Am flynyddoedd wedi hyn, hanes Tomos yw ei hanes yn gyrru gwartheg a moch i Gaer, Gwrecsam, yr Amwythig, a phrif drefydd Lloegr. Hwn oedd y tymor mwyaf ofer ac anystyriol ar ei fywyd. Rhoddodd ei hun yn llaw tad y celwydd i gyflawni pob ffurf ar bechod. Ni byddai o nemawr bwrpas i ddilyn dim ym mhellach arno hyd y ffyrdd anuwiol a rodiodd yn oferedd ei galon am lawer o flynyddoedd. Dyna'r darllennydd, mi debygaf, wedi cael llawn ddigon o drem ar Domos Williams yn nyddiau ei wendid a'i ynfydrwydd. Ond nid mewn ffolineb ac afradlonedd y mae hanes yr hen frawd dyddorol hwn yn darfod o lawer iawn.