Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV. TROI DALEN.

TUA'R flwyddyn 1840 yr oedd y Gymdeithas Lwyrymataliol mewn bri mawr yng Nghymru, a channoedd lawer yn ymuno â hi. Un bore, oddeutu'r adeg hon, yr oedd Tomos yn sal ryfeddol ar ol bod yn yfed diodydd meddwol am lawer o ddyddiau yn olynol. Dechreuodd fyfyrio yng nghylch oferedd ei ffyrdd. Gwelai ei fod yn dechreu myned yn hen ddyn, ac nad oedd wedi gwneyd dim ar hyd ei oes ond baeddu ei gorff ac esgeuluso ei enaid. Daeth i gredu fod anuwioldeb a rhyfyg ei fywyd yn ei ladd yn gyflym. Penderfynodd fyned yn ddirwestwr. Ond y diwrnod y gwnaeth y penderfyniad hwnnw, rhaid a fu iddo gael meddwi cymaint ag erioed o ffarwel Yfodd yr a'r hen ddioden," chwedl yntau hanner peint olaf yng Ngwesty y Bedol, Tal y Bont, ger Conwy. Nos y dydd hwnnw, cafodd ganiatad i fyned i gysgu i ysgubor y Farchwiel, ac yn y lle di-addurn hwnnw aeth Tomos Williams, yr hwn am flynyddau oedd y dyhiryn mwyaf beiddgar yn Nyffryn Conwy—un o'r cadfridogion mwyaf blaenllaw ym myddin y diafol—aeth Tomos, meddwn, ar ei liniau i geisio gweddio. Y tebyg yw mai dyma y tro cyntaf erioed iddo geisio gwneyd y fath beth. Bu yn chwifio ei gledd ac yn ergydio ei fagnel mewn rhyfeloedd blinion ar dir ac ar for heb i'w liniau blygu unwaith gan ofn na dyn na Duw. Melldithiodd rinwedd, a chwarddodd