Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bob syniad am ddaioni a phurdeb ymaith o'r enaid. Yr oedd chwaeth bur a lledneisrwydd ymadrodd ac ymddygiad yn estroniaid iddo; buasai anwariaid yn ei groesawu fel eu brawd a'u brenin. Eto, yn hen ysgubor y Farchwiel, dyma'r hedyn olaf o'r angel oedd yn aros ynddo heb ei lofruddio, yn gwthio ei hun i'r golwg. Yn raddol enilla y fath ddylanwad arno nes y pletha ei ddwylaw, y plyga ei lin—" Wele y mae iau, ac yr ireiddia ei dafod; ac efe yn gweddio." Gofynnodd i Dduw y noson honno ei sobri, a'i nerthu i fod yn llwyrymwrthodwr, gan ei gadw rhag pob oferedd. Gweddiodd yn yr un cyfeiriad ar ol deffro fore drannoeth.

Wedi dychwelyd i Lanrwst, aeth at Mr. Griffith Williams, gŵr parchus a chyfrifol yn y dref, yr hwn oedd hefyd yn ddirwestwr selog. Dywedodd Tomos wrtho fod arno eisio "seinio titotal." Synwyd Mr. Williams yn fawr wrth glywed y fath garictor du a drylliog yn son am y fath beth a dirwest. Ond yr oedd efe yn wr doeth, ac yn un a garai weled unrhyw greadur yn ceisio cael goruchafiaeth ar ei chwantau. Rhoddodd dderbyniad caredig iddo, ac anogodd ef i roddi ei enw i ddechreu yn y llyfr bach." Llyfr ydoedd hwnnw ar gyfer y rhai yr ofnid yn gryf na fyddai iddynt gadw at eu hymrwymiad. Yn gyffredin, rhoddid eu henwau ynddo am fis. Y tebyg yw nad oedd neb a adwaenai Domos—ac adwaenid ef gan filoedd, a hynny oherwydd ei gampau drwg yn credu y buasai yn dal am ddiwrnod chwaithach mis. Modd bynnag, er syndod i bawb, a llawenydd i luaws, dal a wnaeth nes y