Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bu yn rhaid symud ei enw i'r "llyfr mawr "—cronicl y cedyrn mewn dirwest.

Fel y gallesid disgwyl, dioddefodd cymeriad o'i fath ef demtasiynau lluosog a gwawd cyson oherwydd troi ohono yn ddirwestwr. Dechreuodd ennill tipyn o fywoliaeth trwy werthu almanaciau a cherddi, a chan fod cyflawnder o gwsmeriaid i'r lenyddiaeth yna i'w cael yn y tafarnau ar ddyddiau marchnadoedd a ffeiriau, byddai Tomos yn troi iddynt i'w gwerthu. Yr adeg honno-dros drigain mlynedd yn ol yr oedd Almanac, Cerdd, a Chwrw,. yn drindod gymhleth a'u gilydd. Yr oedd yr almanac yn oracl, yn broffwyd, ac yn sant, a'r gerdd yn troi yn farddoniaeth "ysbrydoledig " o dan ddylanwad y cwrw. Wrth ymweled a'r tafarnau byddai yn naturiol yn gosod ei hun yng nghyrraedd palf yr arth a chrafanc y llew. Pan mewn ty tafarn o'r enw Tan yr Ogof, yn— ymyl Abergele, talodd rhyw borthmon moch oedd yno am wydriad o ddiod feddwol iddo, ond dywedodd wrtho yn bendant na chymerai mohono, gan ei fod yn ddirwestwr. "Os na yfi di o, mi tafla i o am dy ben di," ebai y porthmon bras. Ond parhau i wrthod yn benderfynol a wnai Tomos, a thaflodd y dyn, yr hwn a ddygai gysylltiad mewn mwy nag un ystyr â moch, yr holl gwrw am ei ben. Da i'r gwr anifeilaidd hwn fod dirwest wedi cadwyno peth ar ddyrnau a llareiddio llawer ar dafod Tomos, neu buasai yn sicr o gael profi nerth y naill a min y llall. Pan wedi cyrraedd Abergele, lle y cynhelid ffair fawr, trodd i werthu ei lenyddiaeth i dafarndy neillduol. Adnabyddwyd ef yn y fan gan lu oedd yno, y rhai wedi deall ei fod wedi troi yn ddirwestwr a