Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neidiasant ato. Cydiasant yn dynn yn ei freichiau, fel nas gallai symud fodfedd. Yna ceisiodd un o'r cwmni dywallt diod feddwol i lawr drwy ei enau; ond cauodd Tomos hwy yn berffaith glos, fel na lwyddasant i yrru yr un dafn i lawr. Daeth oddiyno gyda dwylaw glân a chydwybod dawel. Bu lawer gwaith mewn enbydrwydd cyffelyb i'r uchod oherwydd ei fod wedi troi yn ddirwestwr.