Tudalen:Capelulo (Elfyn).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V. SEL TOMOS.

WEDI dal at ei ymrwymiad yn ffyddlon am rai misoedd, cynhelid cyfarfod dirwestol mawr yng nghapel Seion, Llanrwst, ac, ar anogaeth y llywydd, adroddodd Tomos dipyn o'i brofiad fel dirwestwr. Ni bu iddo ymollwng i ddweyd dim oedd yn ddigrif y tro hwn, ond daeth yn areithiwr doniol ryfeddol ar ol hynny. Byddai yn arswydus o ffyrnig wrth ymosod ar feddwdod a chyfeddach, ac ni byddai yn rhy ofalus am wneyd y detholiad priodol o eiriau wrth wneyd hynny. Ond byddid yn maddeu yn rhwydd iddo os âi, weithiau, ar draws y chwaeth oreu, ac os defnyddiai, wrth felldithio. ambell air nad oedd yn ddigon canonaidd i fod mewn geiriadur. Rai troion, mewn cyfarfod dirwest, rhaid fyddai i'r llywydd atal Tomos pan yn torri allan i'r hwyl fawr, ac yn taflu gormod o ffrwyn i'w dafod a'i sel. Dyma. engraifft.

Tomos (yn dweyd y drefn am y ddiod,. &c.).—Yr hen sopen ddrwg, yr hen feuden felldigedig, uffernol gyni hi! Fasa yna ddim jêl, na madows, na thransbort, oni bae am dani hi. Y c——l, yn siwr i chi, oedd y cynta un i ddyfeisio peth fel hyn. Y fo ffeindiodd y risêt i'r briwars mawr yma i gael gwybod sut i'w gwneyd hi. Ran hynny, y fo sy'n rho'i stwff at i gneyd hi hefyd. Mi rydw i'n cofio pan oeddwn i ar fy nherm yn y nos yn Bombay, ac yn methu ar