Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

acw; a dacw'r llecyn, hwyrach, oedd o flaen ei lygad pan yn darlunio ei weledigaeth gyntaf, —

"Ar ryw brydnawn-gwaith teg o haf hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbienddrych, i helpu'm golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr denau eglur, a'r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros fôr y Werddon, lawer golygiad hyfryd. O hir drafeilio a'm llygaid, ac wedyn a'm meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac a'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau eraill, yn ddiogel."

Cerddais dros y bryn bychan gan ddod i lawr at gefn Glasynys y bardd, - amaethdy a'i wyneb tua'r mynyddoedd. Gwelais ar unwaith ei fod Y Las Ynys, cartref y Bardd Cwsgwedi ei adeiladu fel y dylid adeiladu ty ar lethr craig; gyda drws i fynd oddi allan i'w ystafelloedd uchaf, ac mor naturiol ei safiad a phe buasai wedi codi, fel blodeuyn, yng nghwrs natur ar ochr y bryn. Curais wrth y drws, a daeth merch ieuanc i'w agor. Dywedodd fod croeso imi weled cartref y Bardd Cwsg, a ddangosodd i mi brif ystafelloedd y ty . Yr wyf yn cofio fod rhyw hanner arswyd arnaf wrth grwydro trwy'r ystafelloedd lle crëwyd golygfeydd ofnadwy Bardd Cwsg; a thybiwn mai hyfryd i'r bardd, pan fyddai ei ddychymyg wedi ei arwain trwy erchyllterau uffern a'r fall, oedd sylweddoli ei fod ef mewn lle mor hyfryd.

Yr oedd llwybr Elis Wyn rhwng ei gartref a'i eglwys, rhwng Glasynys a Llanfair. Y mae Glasynys rhyw ddwy filltir o Harlech i'r gogledd,