Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'r gemau a'r perlau puraf,
Goreu 'u lliwiau îs y lloer,
Dan y tonau'n gudd rhwng creigiau,
Yn nyfnderoedd mawr y môr;
Ac mae'r blodau teca'u lliwiau,
Lle nas gwelir byth mo'u gwawr,
Ac yn taenu 'u peraroglau
Lle na sylwa neb mo'u sawr.

Yma, f'allai, caid rhyw Hampden
Ddoeth, a chalon ddewr o ddur,
A geryddai un gormeswr,
Fynai dreisio darn o'i dir;
A rhyw Filtwn heb ei fawr-glod,
Mewn dystawrwydd îs ein traed,
Ac ail Gromwel gwrol, grymus,
Rhydd o 'lanas pawb o'i wlad.

Caed clodforedd yn y Senedd,
Am areithiau dawnus doeth,
Llwyr ddirmygu, mil yn gwgu,
Neu'n anelu'r cleddyf noeth;
Taenu llewndid dros ei genedl,
Gweled gwlad yn gwenu ei glod,
Oeddynt freintiau na allasai
I un o'u graddau'n bosib' ddod.

Tlodi os nadai rhai rhinweddau,
Rhag cyrhaeddyd eitha'u rhod,
Tlodi a lethai fwy gamweddau,
Mewn ll'wetheiriau dan ei throed;
Ni chlyw'd iddyn' ddringo gorsedd,
Drwy gelanedd, mwrdd-dra, a gwaed,
Na chau clust a drws tosturi,
I galedi a gweddi gwlad.

Gwadu'r gwir, a thyngu'r celwydd,
Heb na syndod, ofn, na chryd,
Na llwyr ddiffodd gwreicbion olaf
Gwir onestrwydd gyda'r gwrid,
Na gwastrffu peraroglau,
Ac auraidd ddoniau'r awen ddrud,
Yn aberthau ar allorau
Anghyfiawnion beilchion byd.

Pell o 'myraeth ffol a hiraeth
Am arglwyddiaeth ar eu gwlad,
Gyda sobrwydd a boddlonrwydd,
Ymostynen' at eu stâd;
Mewn dystawrwydd gostyngeiddrwydd,
Cymedrolder hoff a hêdd,
Y ffordd dawel cyflwr isel,
Byth y cadwen' hyd y bedd.