Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PA LE MAE FY NHAD?

[Gan JOHN CEIRIOG HUGHES (Ceiriog), genedigol o Glynceiriog, 1833-1887.]

MEWN bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Eisteddai gwraig weddw yn nghanol ei phlant;
Yr ie’ngaf ofynodd wrth wel'd ei thristad,
Mae'r nos wedi dyfod, ond p'le mae fy nhad?

Fe redodd un arall gwyneblon a thlws,
I'w ddysgwyl ef adref ar gareg y drws;
Fe welodd yr hwyrddydd yn duo'r holl wlad,
A thorodd ei galon wrth ddysgwyl ei dad .

Y sêr a gyfodent mor hardd ag erioed,
A gwenodd y lleuad dros frigau y coed;
A'r fam a ddywedodd, “Mae'th dad yny nef,
Ffordd acw, fy mhlentyn, ffordd acw mae ef.”

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i'r nefoedd mae'r weddw a'i phlant ;
Ni feddyr holl gread 'run plentyn a wad
Fod byd anweledig, a gollodd ei dad.

RHYDDID

(CEIRIOG.)

GWEL, gwel, y gadarn Wyddfa wen
Yn codi ei breninol ben
I ddweyd fod Cymru'n rhydd!
O fryniau nawdd ein rhyddid ni!
Rwy'n edrych arnoch yn eich bri,
Rwy'n codi 'mreichiau atoch chwi,
Gan oian, Cymru Rydd!
Ar uchel gopa Idris Gawr,
Ar Ferwyn a'r Plumlumon mawr,
Ac ar y creigiau is i lawr,
Awelon Rhyddid sydd;
Ac fel yr awel uchel gref,
Sy'n rhodio trwy gymylau'r nef,
Y Cymro hefyd, felly ef,
Mae'n rhydd, yn rhydd, yn rhydd .