I eiriau dirmygus, dyeithriol nid wyf, |
Y JERUSALEM NEFOL.
(CEIRIOG.)
RWY'N llefain o'r anialwch
Am byrth fy ninas wiw,
Jerusalem fy nghartref,
Jerusalem fy Nuw.
Pa bryd y caiff fy llygad,
Pa bryd y caiff fy mhen,
Ymagor ac ymorphwys
Yn mro Caersalem wen.
Gad imi fara 'r bywyd,
Gad imi'r dyfroedd byw
Ar ddeheulaw fy Mhrynwr
Yn ninas wen fy Nuw.
'Rwyn 'n sefyll ac yn curo,
O agor ditbau 'th ddor,
Am Sabboth ac am deml
Jerusalem fy Ior.
'Rwy 'n trigo ar y ddaiar,
Gan edrych ar y wawr,
A dysgwyl am ddisgyniad
Jerusalem i lawr.
Er fod y nef yn gwgu
Ar ael y cwmwl draw,
'Rwy 'n credu, ac yn canu,
Jerusalem a ddaw.
Er dalled yw fy ngolwg,
Er trymed yw fy nghlyw,
Mi welaf mewn addewid
Jerusalem fy Nuw.
Mi welaf deml Sion
Mi glywaf Jubili;
Mi welaf ddinas sanctaidd,
Jerusalem yw hi