Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Y GRAIG
YM merw llid y môr llydan,-hi a chwâl
Donnau chwyrn heb wegian;
Ond uwch twrf y cynnwrf can,
Dyry aelwyd i'r wylan.
BRYNACH
ER ei ddwyn dan glawr o ddôr-ei annedd
I le'r meini mynor,
Hir dystia'i waith na roed stôr
Ei athrylith ar elor.
LLWYBR Y MYNYDD
Er hanes yn y mynydd-yw uno
Hwsmonaeth a chrefydd,
Dirwyn a dwyn beichiau'r dydd
I le'r mawl ar y moelydd.
YR ALARCH
NAWF fel hud yn fud wrth fanc,-a'i wenwisg
Fel manod diddianc;
Ond clyw'r llif a'r lloer ifanc
Ei awen drist yn ei dranc.