Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BUGAIL ABERDYFI.

Ton—O tyr'd yn ol fy ngeneth wen.

Mi geisiaf eto ganu cân
I'th gael di 'nol, fy ngeneth lân,
I'r gadair siglo, ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi:
Paham, fy ngeneth hoff, paham
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw ei fam,
A'i galon bron a thori.
Mae'r ddau oen llaw—faeth yn y llwyn,
A'r plant sy'n chwareu gyda'r wyn,
O tyr'd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion, niwliog, du,
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu,
O agor eto ddrws y ty,
Ar fynydd Aberdyfi.;
O na chait glywed gweddi dlôs
Fy Arthur bach cyn cysgu'r nos,
A'i ruddiau bychain fel y rhos,
Yn wylo am ei fami!
Gormesaist lawer arnaf, Gwen,
Gormesais inau,—dyna ben,
O tyr'd yn ol, fy ngeneth wen,
I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu cân
I'th gael di ’nol, fy ngeneth lân,
I eistedd eto ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
'Rwy'n cofio'th lais cyn canu'n iach,
Ond fedri di na neb o'th âch,
Ddiystyru gweddi plentyn bach
Sydd eisiau gwei'd ei fami;
Rhyw chwareu plant oedd d'weyd Ffarwel,
Cyd-faddeu wnawn, a dyna'r fel,
Tyr'd dithau'n ol fy ngeneth ddel
I fynydd Aberdyfi.
CEIRIOG