Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn ddisgyblion, neu wyr ieuainc fuont enwog fel hyrwyddwyr addysg ym Mon. Enw y Meudwy hwn,-tad neu sefydlydd ysgol, neu goleg,-oedd Seiriol. Cell arall addysg ym Mon oedd Cell Cybi. Y ddau hyn cydrhyngddynt fuont yn arolygu addysg yma flynyddau lawer cyn i'r un pabydd sangu daear Mon, a chyn i un o fonachlogydd pabaidd y canol oesoedd gael ei hadeiladu.

Mewn penodau blaenorol awgrymwyd fod cysylltiad agos rhwng Dona a Iestyn fel goruchwyliwr yr etifeddiaeth a berchenogasai hi yn ei hawlfraint ei hun. Crybwyllwyd y modd yr amlygasant eu serch i'w gilydd ym mhresenoldeb Ceris, yr hwn yntau a ddatganodd ei gydsyniad a'i gymeradwyaeth, gydag arddangosiad o lawenydd a serch dwfn. Tyfodd eu serch i fod yn gwlwm annatodol i'w sicrhau yn eu perthynas mwyaf agos, fel nad oedd dim yn eisiau ond eu cysylltu mewn glan briodas yn gyhoeddus ym mhresenoldeb eu ceraint a'u cymydogion.

Fore dydd cysegriad y Gil newydd oedd eisoes wedi ei henwi gyda chymeradwyaeth gyffredinol yn Gil Dona, priodwyd y ddeuddyn gan yr Esgob Moelmud, yr hwn yn ddifrifol ac yngwydd pawb oedd