Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cristionogol, ac edifarha cyn dy esgymundod gan allu mwy nag awdurdod eglwysig. Hysbysa i ni yr oll a wyddost, oblegid y mae dy deithiau a'th gyfrwystra yn dy alluogi i ddewinio, fel tylwyth Scefa gynt; ond gwylia rhag cael dy rwygo gan y demon sy'n llygru dy fywyd â'i dderwyddiaeth a hud ei ddewiniaeth."

Ni fu geiriau yr Esgob heb eu heffaith ar Bera, oblegid troes ei harddull o lefaru i siarad eglur, heb ddameg na diareb. "Moelmud," meddai, " nid oes dwyll ar dy wefus, na rhagrith yn dy fywyd; am hynny dywedaf yn eglur—mae Caradog ar goll, a Chaswallon y bradwr yn casglu gwyr gwylltion mwnglawdd y gogledd i rwystro dychweliad Bran, ac i sefydlu awdurdod y Brython ym Mon, a lledaenu mynachaeth Frythonig dros y wlad i gyd.'"

"Syrthied dy eiriau i'r ddaear," meddai'r Esgob, " a safed mynachaeth seml y Goidel fel creigiau'r Eryri."

Wrth glywed dymuniadau yr Esgob yn cael eu traethu cynhyrfodd ysbryd Bera gymaint o'i mewn nes iddi godi dwylaw a gweiddi,—

"Taweled Dofydd bob storm a chynnwrf, a thafled derwyddiaeth ei mantell