Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V. DONA

ER mwyn i'r stori fod yn fwy dealladwy bydd yn rhaid egluro rhai pethau a ymddangosant fel yn cymylu yr hanes, a hynny a wneir fel bo'r cyfleustra.

Dona, fel y sylwyd, oedd ferch Ceris. Hi oedd unig blentyn ei mam, fel yr oedd ei mam yn unig blentyn ei mam hithau. Bu farw mam Dona yn fuan ar ôl ei geni. Bu farw hefyd daid a nain y ferch amddifad: ac felly yr oedd hi yn awr yn etifeddes dwy randir helaeth-un ar lan y Fenai, a'r llall yn ymylu ar Draeth Coch. Yr oedd yr etifeddes bellach ym mlodau ei dyddiau-yn dal a golygus ei pherson, ei phrydwedd yn oleu, ei gwallt yn grych ac yn eurliw, a'i llygaid gleision yn fywiog, llawn o arwyddion deall cryf; a charedigrwydd hudolus yn argraffedig yn ei holl edrychiad. Banon oedd heb un yn ail.

Bu ei thad yn dra selog yn ei dygiad i fyny, ac yn ei ofal i feithrin ei ferch yng nghrefydd seml y tadau Goidelig,