Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynglŷn â phob galanastra rhyfel gwareiddiad gamarweiniol.

Yr ydym ni yn gobeithio nad oedd goresgyniad Môn gan y Brythoniaid yn gyffelyb i rai mwy diweddar. Mae'r hen hanes yn unochrog iawn, ac wedi ei gyfansoddi mewn arddull chwedlonol anhawdd yn aml i'w deongli, oblegid y ffigyrau tywyll ddefnyddir yn y disgrifiadau, oherwydd yr awydd, a'r diben fe allai, i ddarnguddio ffeithiau i gamarwain, er mwyn dyrchafu plaid neilltuol mewn Eglwys neu Wladwriaeth.

A fu ymladd rhwng Brython a Goidel yng ngoresgyniad Môn? Do, yn ddiddadl: oblegid amhosibl fuasai goresgyn heb ddifeddiannu wrth feddiannu; ac mae traddodiadau gogledd Môn yn cyfeirio at frwydrau, enwau y rhai a ddynodant ddwy genedl. Ac ymhellach, mae cymaint rheswm dros wrthod hanes croesi y Fenai gan y Rhufeiniaid, ag sydd dros wrthod credu fod yna blaid a orchfygwyd ym Môn gan Gaswallon, yr hwn, yn ol hen hanes, a ddinystriodd y gallu Goidelig a arweinid gan Lerigi. Feallai mai mabinogi, neu legend yw y stori, ond nid yw amheuaeth o'r ffaith yn gyfystyr ag