Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amheuaeth ynglŷn â gwerth yr adroddiad fel hanes.

Hefyd, y mae dadl ynglŷn â'r cwestiwn-Pwy oedd y Goidelod a orchfygwyd gan Frythoniaid Môn? Dywed rhai mai Gwyddyl o'r Werddon oeddynt, a yrasant ryw Frythoniaid oddiyma i wneyd lle i'r Gwyddyl goresgynnol. Mae rhestr enwau brenhinoedd Gwyddelig tybiedig Gwynedd (os cywir fel rhestr Wyddelig) yn ein taflu mor bell yn ol, fel y mae'n amhosibl derbyn yr haeriad mai ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain y daeth y Gwyddyl yma; ac nid yw yn debyg y buasai y Rhufeiniaid fuont mewn meddiant o Ucheldiroedd Arfon yn goddef i wlad fras fel Môn gael ei goresgyn gan Wyddyl o'r Werddon.

Ac nid goresgyniad bychan lleol oedd presenoldeb y Gwyddyl tybiedig yng Nghymru, oblegid y mae hanes adfywiad crefyddol neu eglwysig Dewi Sant yn profi fod crefydd Goidelig Cymru yn allu esgobol gydag eglwysi esgobol, er nad o'r un drefn a'r eglwysi Brythonig, fel y profa hanes cynhadledd fawr Llanddewi Brefi.

Ymhellach, paham y mae Cymry goleuedig yn mynnu cysylltu coedwigwyr