Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r ddau bobl oedd yn wahanedig yn unig oblegid gwahaniaeth iaith a ffurf lywodraeth eglwysig, ddilyn eu trefn eu hunain, am y rheswm y byddai yn ddoethach gadael i'r esgobion Goidelig lywodraethu eu praidd eu hunain yn ol eu cynllun syml oedd ddealladwy i'r Goidelod. Yr oedd y Brythoniaid yn dilyn trefn fwy tywysogol,—is-esgobion, neu offeiriaid, yn cydnabod prif esgob fel arolygydd yr esgobion plwyfol.

Dylid cyfeirio yn neillduol yn y fan yma at adran arbennig yn y cyhoeddiad tywysogol, sef yr adran yn yr hon y rhoddid dyfarniad yn erbyn penaethiaid a wrthwynebasent Caswallon, a'r rhai na ddaethant i ymostwng yn ffurfiol, ac oblegid eu habsenoldeb a gyfrifid yn wrthwynebwyr ystyfnig. Cyhoeddwyd y rhai hyn yn Foelion, hynny yw, yn gaethion heb freintiau gwŷr rhyddion. Ymhlith y rhai hynny enwyd Ceris y Moel, ac fel y cyfryw dietifeddwyd ef a'i ferch Dona. Cyn i Moelmud gael amser i roddi ei brotest yn erbyn y dyfarniad, ac erfyn am oediad hyd oni chlywid amddiffyniad Ceris o'i enau ef ei hun, canfyddwyd cynnwrf yn y gwersyll oherwydd