Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddangosiad rhedegydd swyddogol gyda neges bwysig. Wedi ymgynghoriad byr rhwng y Tywysog a'i brif swyddwyr, cyhoeddwyd fod perygl, sef bod y gelyn wedi glanio yn Abermenai-y brif adran yn y lanfa orllewinol ger Tal y Foel, a'r ail yn y lanfa ddwyreiniol o'r tu hwnt i'r Foel. Yr oedd, meddid, y ddwy adran wedi meddiannu rhydau Malldraeth, a chroesi i'r ochr arall yn finteioedd yn frysiog fel pe buasent ar fedr ymwthio tua'r gorllewin i gadw yn agored cymundeb â'r Werddon.

I gyfarfod y symudiad hwnnw, anfonwyd adran i feddiannu yr ysgraffau a groesent i Roscolyn o wahanol gyfeiriadau: a threfnwyd i adrannau gyfarfod ac ymosod yn ddiymaros ar y goresgynwyr mynyddig. Bu mân ysgarmesoedd cyn i'r dieithriaid gael eu gyrru yn ôl ar y brif sefyllfa a gymerasent i fyny yng Ngherrig y Gwyddel. Un ymladdfa bwysig gymerodd le, ac yn honno y lladdwyd Serigi ac y gorchfygwyd ei ddilynwyr. Bu y mynyddwyr ysgafndroed yn fwy llwyddiannus yn eu henciliad; oblegid nid oedd ganddynt gludgelfi i'w rhwystro, na llawer o ddarpariaeth gan y Monwyson