Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w hymlid. Nid yw y traddodiad na'r hanes yn ddigon helaeth a manwl i ni ddeall holl amgylchiadau y goresgyniad a'r gorchfygiad dilynol; ond mae'n amlwg na effeithiwyd ond ychydig ar y prif symudiad ddiweddodd mor hapus yn yr holl ganlyniadau o honno. Argraffodd llwyddiant Caswallon yn arosol ar breswylwyr yr Ynys, yn Goidelod a Brythoniaid, fel y siaredir hyd heddyw am oresgyniad Mon fel pe buasai wedi ei achosi gan Wyddelod a ymsefydlasant yn Arfon a'r Eryri ryw gyfnod dilynol i ymadawiad y Rhufeiniaid. Penderfynir y cwestiwn dyrus gan y gwŷr sicr o bob tu, os yw hynny yn bosibl. Hyn sydd sicr, fod olion "cytiau Gwyddelod" tybiedig, os nad Goidelod, i'w canfod mewn amryw fannau o'r Ynys, yr hyn sy'n myned ymhell, i brofi nad ydyw Cymry Mon o ddisgyniad Brythonig mor bur ag y tybir gan rai. Awgrymir yma eto fod olion Goidelig ymhob rhan o Gymru, yn enwedig ym mynyddoedd y Gogledd, yn hollol wrthwynebol i'r syniad mai olion goresgyniadau lleol o'r Werddon ydynt. Nid yw y disgrifiad "yr hen Wyddelod" yn profi dim yn gryfach na bod cyd-gymysgu ieithoedd a gwaed,