Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llanddewi Brefi dan gyfarwyddyd Dewi Sant. Mewn oesoedd diweddar deallwn mi tylwythol oedd llywodraeth y Celtiaid yn Ucheldiroedd Ysgotland cyn chwyldroadau yno yn 1715 a 1745. Mae'n debyg na achoswyd cyfnewidiadau eglwysig ym Mon hyd nes i'r iaith gyffredin i'r Brython a'r Goidel gael ei ffurfio fel y gallai y ddau bobl ymuno yn y Gymraeg. Nid yw'n hysbys pa bryd gyntaf y daeth yn bosibl i'r genedl ymdoddedig ymuno mewn addoliad cyffredin. Mae'n sicr na symudodd Mon o'r dylwythol i'r dywysogol, mwy nag y ganwyd cenedl, mewn un dydd. Mae y gwirionedd yma mewn rhan yn cael ei gadarnhau yn hanes Doli Pentraeth o Gernyw, yr olaf i ddweyd ei phader yn yr iaith oedd wedi marw i ddefnydd ymarferol. Yr oedd llawer Doli gyffelyb ym Mon yn niwedd yr hen oruchwyliaeth pryd y cytunodd y Brythoniaid a'r Goidelod i ymuno yn un eglwys. A thebyg hefyd i lawer o'r hen gildŷwyr (culdees) ymlynu wrth eu hen ddisgyblaeth a threfn eglwysig er iddynt golli eu hiaith. Felly y bu yn y Werddon beth bynnag, oblegid dywed Giraldus Cambrensis (A.D. 1185),