Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—"Yng Ngogledd Munster mae llyn yn cynnwys dwy ynys: yn y fwyaf mae eglwysi o'r hen fonachaeth, ac yn y leiaf gapel lle mae ychydig foneich a elwir Culdees yn defosiynol wasanaethu Duw. Yn nheyrnasiad y brenin Dafydd o Scotland tua 1130, deallwn fod y Culdees, mewn congl o'u heglwys eu hunain, yr hon oedd fechan iawn, yn arferol o arferyd eu trefn eglwysig eu hunain. Oni ellir esbonio cyfeiriadau at S.S. Padrig a Ffraid yn yr hanes, neu chwedloniaeth, sy'n priodoli cysylltiad rhyngddynt a'r grefydd Goidelig ym Mon; oherwydd y mae Llanbadrig a Chapel S. Ffreath yn Rhoscolyn yn awgrymu rhyw genhadaeth Goidelig ym Mon, fel pe buasai yr Eglwys yn y Werddon wedi tosturio wrth gildŷwyr ein hynys ac anfon cenhadon a fedrent siarad yr iaith oedd ar ddarfod yma? Ac hefyd, pe bai ryddid i newyddian geisio egluro dyryswch, onid ydyw y plwyfi mawrion gyda'r plwyfi bychain cysylltiol, fel un fywoliaeth eglwysig, yn awgrymu fod y ddau blwyf unwaith yn gwneyd i fyny un etifeddiaeth o dan un pennaeth gwladol, yr hwn, ar ol iddo adeiladu tŷ ac eglwys iddo ei hun, a ddarparodd gyfleusterau i'w denantiaid