Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw'r Andras o Dryfan, mam Afanc y Llyn, bydd raid i'r Widdan roi i fyny ei hysglyfaeth, neu gollyngaf gwn Annwn i'w chyfarth a'i blino nes yr ymlidir hi i Abred a'r gogledd, fel na welir hi byth yngwlad y Goidel."

"Taw a rhegi," ebai'r Goidel mewn dychryn, "ni ddeuthum â gwobr dewiniaeth yn fy llaw. Gwna'n hysbys yr hyn wyddost, a dywed, os medri, ple mae y rhai gipiwyd o'u cartref, fel y cyflawnwyf fy neges."

"Tynnaf allan heno Bera'r Widdan, a gwae hi os na rydd hysbysrwydd. I ble y dygaf y deiliaid, oblegid deiliaid a dwyllir gan Bera?"

"I rywle ond i Eryri. Mae gwyr Dinas Emrys yn llidiog iawn."

"Gyrraf Bera ymaith dros ennyd; a dall yr aderyn ni ddiango o gawell agored. Daw ymwared o Fwlch Llanrhos."

"A allaf fi anfon i Fon, a oes sicrwydd y cyflawnir y neges?"

"A oes sicrwydd," meddai'r gwr hysbys, " y cyfyd yr haul yforu? Oes, yr un sicrwydd ag y bydd y ffoaduriaid dros afon Gonwy i Fon."

Ar ôl yr ymgom yna teimlai y Goidel yn hyderus y cyflawnai y "gwr hysbys"