Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ESGIDIAU NADOLIG.

YR oedd yn brydnawn oer rhewllyd ddau ddiwrnod cyn dydd Nadolig. Gorweddai yr eira yn fantell wen ar y llawr, ac yr oedd y plant, wrth ddod o’r ysgol, yn lluchio eu gilydd gydag ef. Yr oeddynt wedi eu gollwng allan awr yn gynt, a’r ysgol wedi torri am ychydig ddyddiau y gwyliau. Mor fywiog, mor hapus oeddynt, a’r un o honynt yn fwy bywiog a mwy hapus nag un eneth fechan oedd, feallai, wedi gweled wyth dydd Nadolig arall.

Galwai y plant eraill hi yn Becca. Buasai hi ei hun yn dweyd wrthych mai Rebecca Elinor Owen oedd ei henw, gyda phwyslais neilltuol ar yr “Elinor.” Ffermdy tua milltir o’r dref oedd ei chartref, a meddyliai Becca nad oedd gan neb gartref cyffelyb iddo.

Yn lle myned yn syth ar hyd yr heol oedd yn arwain allan o'r dref i'r ffordd at yr Hendre Isaf, aeth Becca gyda’i chyfeillion i edrych ffenestri y siopau oedd wedi eu harwisgo â phob math o bethau prydferth erbyn y Nadolig. Yn un ffenestr yr oedd doli fawr yn cael ei harddangos, a safodd Becca yn hir yn syllu arni, ac yn penderfynu pwy fyddai ei pherchennog. Safodd hefyd wrth ffenestr siop cyfrwywr, er gwaethaf y plant ereill oedd yn gwaeddi,—

“Tyd, Becca, ’toes ’na ddim byd neis yn fan ’na.”

Ond yr oedd llygaid Becca wedi syrthio ar goler ci, ac yr oedd y goler yn gorwedd yn ymyl y ddoli yn ei meddwl.

Wedi gorffen eu pererindod drwy yr heolydd, ymadawodd y plant a’n gilydd, a throdd Becca tua chartref. Ei hunan yr oedd hi. Nid