Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i lonni y plentyn claf mwy, oherwydd nid oedd yr un arall wedi ymddangos ar y brigyn uchaf.

Un boreu, pan oedd bron methu codi ei ben, clywai lais o gyfeiriad y ffenestr yn dweyd,— “Mor brydferth mae yn edrych; rhaid i ni gael y rhosyn yr oedd mor hoff o'i wylio i osod yn ei dwylaw.” Ac agorwyd y ffenestr, a chydiodd llaw yn y rhosyn ac a'i torrodd oddiar y brigyn, a theimla ef ei hun yn cael ei ddwyn i fewn i ystafell. Ond fel yr oedd y llaw yn ei osod rhwng y dwylaw bach plygedig, rhoddodd y rhosyn ochenaid, a syrthiodd ei ddail yn un gawod wridog dros fynwes lonydd y plentyn marw.

Nid oedd mwyach angen rhosyn wrth y ffenestr i lonni y ddau lygad fyddai yn ei wylio mor hoffus. Yr oeddynt yn awr yn gwylio prydferthwch mwy na phrydferthwch y rhosyn.