Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eithr efe a edrychodd ym myw llygaid Iestyn ac a ddywedodd,—

“Dos a galw yma forwyn o'r enw Anwylaf sydd yn dy wasanaeth di, a dywed wrthi am ddod a'r aderyn bach o'r agen yn y mur.”

Yna dechreuodd ofni fod ei drais a'i ormes yn hysbys i'r brenin, ac a ddanfonodd un o'r morwynion i chwilio am Anwylaf. A phan glywodd hi fod y brenin wedi galw am dami, dychrynnodd yn fawr: eto yr oedd hefyd yn llawenhau wrth feddwl y cai hithau hefyd ei weled. A rhedodd i'w hystafell i geisio yr aderyn hoff, gan geisio dyfalu pa fodd y gallai y brenin fod yn gwybod am dano.

Pan ddaeth hi at y cerbyd, estynnodd y brenin ei law iddi, ac meddai,—

“Tyred i fyny Anwylaf, wyt ti wedi anghofio yr hen gardotyn?”

Edrychodd Anwylaf arno, ac nis gallai gredu mai yr hen gardotyn tlawd oedd efe, canys yr oedd y brenin yn ddyn ieuanc, ac nid oedd eì ysgwyddau wedi crymu fel yr hen gardotyn. Ond wrth syllu yn ei wyneb adnabu ei lygaid, oedd yn disgleirio fel gemau. Gwnaeth y brenin iddi eistedd wrth ei ochr ar y glustog sidan yn ei charpiau fel yr oedd hi; a gorffwysai ei thraed bach noethion ar y croen blewog oedd yn gorchuddio gwaelod y cerbyd, a gorweddai ei llaw, oedd yn galed gan lafur, yn ysgafn yn llaw y brenin, a theimlai Anwylaf yn ddiogel am byth. Yna trodd y brenin at Iestyn, ac at y dorf o weision a gwahoddedigion, ac meddai, a'i lygaid yn pelydru fel mellt,—

“Mi a wn dy ddrygioni di, O Iestyn, pa fath galon sydd yn dy fynwes. Bydd barod i roddi cyfrif o dy waith. A chwi, weision ufudd eich meistr, a chwi gyfoethogion, gwybyddwch i mi