Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymeryd taith drwy y ddinas hon yng ngwedd cardotyn tlawd anghenus, ac ni chefais drugaredd gan yr un ohonoch, oddi eithr gan y forwyn hon, a chan un arall y cewch wybod ei enw yn y man. Ewch a dysgwch dosturi, gan wneyd i bawb fel y dymunech i eraill wneyd i chwi, gan na wyddoch pa bryd y byddwch yn gofyn trugaredd eich hunain.”

Ac yna efe a archodd i'w farchogion gychwyn, ac aeth yr orymdaith yn ei blaen, gan adael Iestyn a'i weision a'i wahoddedirion yn edrych ar eu gilydd mewn braw.

Ac Anwylaf oedd yn eistedd wrth ochr y brenin a'r aderyn bach yn ei mynwes, a daeth gwynt tyner o dros yr afon ac a gusanodd ei gruddiau, ac a ymdroellodd yng nghudynau aur ei gwallt. Ni theimlodd hi erioed mor ddedwydd. Un peth oedd eisieu, cael gweled ei thad a'i mam. A thrwy y ddinas wych y tramwyasant, drwy ei heolydd llydain, heibio ei phlasau têg, a cheisiai y marchogion ddyfalu ym mha un ohonynt y gwnai y brenin aros i orffwyso. Ond heibio porth pob un y marchoga y cerbyd tanbaid, nes yr oedd wedi eu gadael ar ei ol, a dechreuai yr heolydd fyned yn gulach ac yn fwy distadl. Yn un o'r heolydd cul, er syndod y marchogion, safodd y cerbyd o flaen drws isel heb unrhyw addurn arno, ac aeth y brenin i lawr, ac a gurodd arno a'i law ei hun. Ac yr oedd calon Anwylaf yn llamu ers pan ddaethant ì'r heol, canys yr oedd yr oll yn gynefin iddi, a hwn oedd drws ei chartref. A phan agorwyd y drws gan ei mam, neidiodd i'w breichiau a chofleidiodd hi mewn llawenydd. Ac arhosodd y brenin yn nhy tad Anwylaf y diwrnod hwnnw hyd drannoeth, a cherddodd gydag ef drwy yr heol ym mraich ym mraich,